Annwyl Lesley
Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017
Ystyriodd y Pwyllgor Reoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (Asesiadau Llesiant Lleol) 2017 yn ein cyfarfod ar 9 Hydref 2017, ynghyd ag ymateb y Llywodraeth i'r pwynt rhinweddau a nodwyd mewn perthynas â gofynion mapiau sŵn.
Yn ystod ein trafodaeth, tynnwyd sylw at Reoliadau Sŵn Amgylcheddol (Cymru) 2006 (Rheoliadau 2006).
Mae rheoliad 7 o Reoliadau 2006 yn gosod dyletswydd statudol glir ar Weinidogion Cymru i lunio a mabwysiadu mapiau sŵn. O dan reoliad 7, roedd yn ofynnol i Weinidogion Cymru lunio a mabwysiadu map sŵn erbyn diwedd Mehefin 2017.
O dan yr amgylchiadau, byddwn yn ddiolchgar am eglurhad ynghylch a wnaeth Gweinidogion Cymru fap sŵn a'i fabwysiadu erbyn diwedd Mehefin 2017, fel sy'n ofynnol gan Reoliadau 2006.
Huw Irranca-Davies
Cadeirydd